Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r gwaith o gynhyrchu llaeth yng Nghymru, y gwaith o’i brosesu a’r seilwaith llaeth yng Nghymru.
Ni ddylai ddibynnu ar y cyfleusterau a gaiff eu rheoli’n ganolog yn ehangach yn y DU. Mae’r cyfleusterau hynny gryn bellter oddi wrth lawer o’r ffermydd yng Nghymru, yn arbennig y ffermydd yng ngorllewin y wlad. Nid ydym yn awgrymu y dylai’r Llywodraeth hyrwyddo un busnes neu frand, ond yn hytrach, y dylai hyrwyddo buddsoddiad mewn unrhyw fusnes sy’n prosesu llaeth yng Nghymru, naill ai llaeth ffres i’w yfed, ymenyn neu gaws.
Prif ddeisebydd: Richard Arnold
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Mawrth 2013
Nifer y llofnodion: 426